RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL

Cyffredinol

17Pwerau i ddiwygio’r Bennod hon

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygi‍o‍—

(a)

adran 2 i ddarparu bod, mewn amgylchiadau penodol, adeilad sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru yn adeilad rheoleiddiedig, er bod yr adeilad yn cynnwys ond un uned breswyl;

(b)

Atodlen 1 i ychwanegu, dileu neu ddiwygio disgrifiad o adeilad;

(c)

adran 3 i ddarparu bod ystyr “adeilad” yn cynnwys strwythurau neu godiadau eraill (dros dro neu barhaol), neu rannau ohonynt, naill ai’n gyffredinol neu mewn amgylchiadau penodol;

(d)

adran 4;

(e)

adran 6 i‍—

(i)

ychwanegu, dileu neu ddiwygio categori adeilad;

(ii)

diwygio ystyr “llawr”;

(f)

adran 7;

(g)

adran 8;

(h)

adran 9;

(i)

adran 13;

(j)

adran 14.

(2)

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)

pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)

pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)

unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.