RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL

Cyfrifoldeb personau atebol ar gyfer rhannau o adeiladau rheoleiddiedig

16Rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani

(1)

Yn y Ddeddf hon, mae i gyfeiriadau at y rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani yr ystyr a roddir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Caiff y rheoliadau ddarparu mai’r rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani yw’r adeilad cyfan.