RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL
Personau atebol, prif bersonau atebol a rhannau cyffredin
15Pŵer i wneud darpariaeth bellach at ddibenion adrannau 8 a 9
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach at ddibenion adrannau 8 a 9.
(2)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ystyr “person atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig—
(i)
nad yw ar dir cyfunddaliad, a
(ii)
nad oes iddo rannau cyffredin, neu nad oes iddo rannau cyffredin o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau;
(b)
ystyr “prif berson atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig—
(i)
nad oes iddo rannau cyffredin, neu rannau cyffredin o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, neu
(ii)
nad oes unrhyw berson atebol yn dod o fewn adran 9(3) ar gyfer yr adeilad.