RHAN 5ATODOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

136Dehongli

(1)

Yn y Ddeddf hon—

mae “adeilad categori 1” (“category 1 building”), “adeilad categori 2” (“category 2 building”) ac “adeilad categori 3” (“category 3 building”) i’w dehongli yn unol ag adrannau 6 a 7;

mae “adeilad rheoleiddiedig” (“regulated building”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 2 a 7;

mae i “adroddiad achos diogelwch” (“safety case report”) yr ystyr a roddir gan adran 37(2);

mae i “asesiad risg strwythurol” (“structural risk assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 34(2);

mae i “asesiad risg tân” (“fire risk assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 29(3);

mae i “asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth” (“HMO fire risk assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 81(2);

mae “awdurdod diogelwch adeiladau” (“building safety authority”), a chyfeiriadau at yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, i’w dehongli yn unol ag adran 122;

mae “awdurdod diogelwch tân” (“fire safety authority”), a chyfeiriadau at yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, i’w dehongli yn unol ag adran 126;

mae i “awdurdod gorfodi” (“enforcing authority”) yr ystyr a roddir gan adran 94(4);

mae i “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) ac “yr awdurdod tai lleol” (“the local housing authority”) yr ystyron a roddir i “local housing authority” a “the local housing authority” gan adran 261 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34);

mae i “caniatâd cynllunio” yr ystyr a roddir i “planning permission” gan adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

ystyr “cofrestredig” (“registered”), mewn perthynas ag adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, yw cofrestredig o dan adran 20;

mae i “cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu” yr ystyr a roddir i “building control approval” gan baragraff 1B o Atodlen 1 i Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55);

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed;

mae i “deiliad dyletswydd” (“duty holder”), mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 79;

ystyr “y Gorchymyn Diogelwch Tân” (“the Fire Safety Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541);

ystyr “gorchymyn mesurau arbennig” (“special measures order”) yw gorchymyn o dan adran 109;

mae “y Goron” (“the Crown”) i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd;

ystyr “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 96;

ystyr “hysbysiad gwahardd” (“prohibition notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 98;

ystyr “hysbysiad gwybodaeth”(“information notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 95;

mae i “landlord” (“landlord”), mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 79;

ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff sydd wedi ei gofrestru fel landlord cymdeithasol o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

ystyr “mangreoedd y Goron” (“Crown premises”) yw mangreoedd y mae’r Goron yn berchen arnynt, neu a feddiennir at unrhyw ddiben gan y Goron;

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag uned breswyl neu unrhyw fangre arall, yw person—

(a)

sydd am y tro yn cael crogrent y fangre, pa un ai yn uniongyrchol neu drwy asiant neu ymddiriedolwr, neu

(b)

a fyddai’n cael y crogrent pe bai’r fangre yn cael ei gosod am grogrent,

ac at y diben hwn, mae i “crogrent” yr ystyr a roddir i “rackrent” gan adran 126 o Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55);

mae i “person atebol” (“accountable person”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 8;

mae i “person cyfrifol” (“responsible person”) yr ystyr a roddir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn Diogelwch Tân;

ystyr “preswylydd” (“resident”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig neu ran o adeilad o’r fath, yw preswylydd uned breswyl yn yr adeilad neu’r rhan;

ystyr “preswylydd sy’n oedolyn” (“adult resident”) yw preswylydd sy’n 18 oed neu’n hŷn;

mae i “prif berson atebol” (“principal accountable person”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 9;‍

mae i “risg diogelwch tân” (“fire safety risk”)—

(a)

mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 27(2);

(b)

mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 80;

mae i “risg diogelwch strwythurol” (“structural safety risk”) yr ystyr a roddir gan adran 27(3);

mae i “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yr ystyr a roddir gan adran 13;

ystyr “rheolwr mesurau arbennig” (“special measures manager”) yw person a benodir drwy orchymyn mesurau arbennig;

mae i “strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr” (“residents’ engagement strategy”) yr ystyr a roddir gan adran 40(2);

ystyr “system cofnodi achlysuron” (“occurrence recording system”) yw system a sefydlir ac a weithredir o dan adran 38;

mae “tân” (“fire”) yn cynnwys gwres, fflamau, mwg a nwyon neu sylweddau eraill a allyrrir gan dân;

mae “tŷ amlfeddiannaeth perthnasol” (“relevant HMO”) i’w ddehongli yn unol ag adran 78;

ystyr “tystysgrif adeilad” (“building certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir o dan adran 44;

mae i “uned breswyl” (“residential unit”) yr ystyr a roddir gan adran 5;

ystyr “wedi ei feddiannu” (“occupied”), mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, yw bod preswylwyr o fwy nag un uned breswyl yn yr adeilad.

(2)

Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at y rhan o adeilad rheoleiddiedig y mae person atebol yn gyfrifol amdani i’w dehongli yn unol ag adran 16.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch ystyr bod yn “preswylydd” uned breswyl.