RHAN 5LL+CATODOL A CHYFFREDINOL

Rhagolygol

Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraillLL+C

131Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu reoliadau a wneir oddi tani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)Caniateir rhoi’r ddogfen drwy—

(a)ei rhoi i’r person â llaw,

(b)ei gadael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)ei hanfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu

(d)ei hanfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno yn ysgrifenedig i gael dogfennau wedi eu hanfon iddo o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani (neu ddogfennau o’r math o dan sylw).

(3)Rhoddir dogfen yn unol ag is-adran (2)(a)—

(a)os yw’r person yn gorff corfforedig, drwy roi’r dogfen â llaw i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff (ac ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff);

(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy roi’r ddogfen â llaw i bartner;

(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy roi’r ddogfen â llaw i un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu.

(4)At ddibenion yr adran hon, cyfeiriad priodol person yw—

(a)os yw’r person yn gorff corfforedig, gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b)os yw’r person yn bartneriaeth neu’n gymdeithas anghorfforedig arall, gyfeiriad ei brif swyddfa;

(c)mewn unrhyw achos arall, gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(5)Os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig y caniateir rhoi dogfennau (neu ddogfennau o’r math o dan sylw) i’r person o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, mae’r cyfeiriad hwnnw hefyd i’w drin fel cyfeiriad priodol y person.

(6)Mae dogfen a adawyd yn unol ag is-adran (2)(b) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi pan gafodd ei gadael.

(7)Mae dogfen a anfonir drwy’r post yn unol ag is-adran (2)(c) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 48 awr ar ôl iddi gael ei hanfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(8)Mae dogfen a anfonir drwy e-bost yn unol ag is-adran (2)(d) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 24 awr ar ôl iddi gael ei hanfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(9)Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi i awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(10)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol ar gyfer rhoi dogfen a wneir gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)