RHAN 5ATODOL A CHYFFREDINOL
Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill
131Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu reoliadau a wneir oddi tani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).
(2)
Caniateir rhoi’r ddogfen drwy—
(a)
ei rhoi i’r person â llaw,
(b)
ei gadael yng nghyfeiriad priodol y person,
(c)
ei hanfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu
(d)
ei hanfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno yn ysgrifenedig i gael dogfennau wedi eu hanfon iddo o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani (neu ddogfennau o’r math o dan sylw).
(3)
Rhoddir dogfen yn unol ag is-adran (2)(a)—
(a)
os yw’r person yn gorff corfforedig, drwy roi’r dogfen â llaw i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff (ac ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff);
(b)
os yw’r person yn bartneriaeth, drwy roi’r ddogfen â llaw i bartner;
(c)
os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy roi’r ddogfen â llaw i un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu.
(4)
At ddibenion yr adran hon, cyfeiriad priodol person yw—
(a)
os yw’r person yn gorff corfforedig, gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;
(b)
os yw’r person yn bartneriaeth neu’n gymdeithas anghorfforedig arall, gyfeiriad ei brif swyddfa;
(c)
mewn unrhyw achos arall, gyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(5)
Os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig y caniateir rhoi dogfennau (neu ddogfennau o’r math o dan sylw) i’r person o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, mae’r cyfeiriad hwnnw hefyd i’w drin fel cyfeiriad priodol y person.
(6)
Mae dogfen a adawyd yn unol ag is-adran (2)(b) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi pan gafodd ei gadael.
(7)
Mae dogfen a anfonir drwy’r post yn unol ag is-adran (2)(c) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 48 awr ar ôl iddi gael ei hanfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
(8)
Mae dogfen a anfonir drwy e-bost yn unol ag is-adran (2)(d) i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi 24 awr ar ôl iddi gael ei hanfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
(9)
Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi i awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.
(10)
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol ar gyfer rhoi dogfen a wneir gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.