RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL
Personau atebol, prif bersonau atebol a rhannau cyffredin
13Ystyr “rhannau cyffredin”
(1)
Mae’r adran hon yn nodi ystyr “rhannau cyffredin” mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)
Ystyr “rhannau cyffredin” yw—
(a)
strwythur a thu allan yr adeilad ac eithrio—
(i)
unrhyw ran o’r strwythur a thu allan sydd wedi eu cynnwys mewn demeis uned breswyl (gan gynnwys rhan o’r adeilad a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a));
(ii)
strwythur a thu allan unrhyw ran o’r adeilad sydd i’w feddiannu at ddibenion busnes neu ymgymeriad (pa un ai er elw ai peidio);
(b)
unrhyw ran arall o’r adeilad—
(i)
nad yw’n rhan o strwythur a thu allan i’r adeilad, a
(ii)
sy’n cael ei darparu at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr mwy nag un uned breswyl (pa un ai y caiff ei defnyddio gan bersonau eraill, y caiff personau eraill fudd ohoni neu y caiff personau eraill fwynhad ohoni ai peidio).
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod, o dan amgylchiadau penodedig, ran o strwythur a thu allan i adeilad yn ffurfio rhan o rannau cyffredin yr adeilad er ei bod yn dod o fewn is-adran (2)(a)(i).
(4)
Yn yr adran hon, mae “strwythur a thu allan” adeilad yn cynnwys—
(a)
sylfeini, waliau allanol, cladin a tho,
(b)
waliau mewnol (pa un ai a ydynt yn cynnal pwysau ai peidio), lloriau a nenfydau,
(c)
grisiau, rhodfeydd a siafftiau lifft,
(d)
ffenestri, drysau a balconïau, ac
(e)
unrhyw beth arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.