Rhagolygol
(1)Caiff awdurdod perthnasol ddatgelu gwybodaeth a ddelir ganddo i awdurdod gorfodi at ddibenion swyddogaeth berthnasol y naill awdurdod neu’r llall.
(2)Nid yw datgelu gwybodaeth yn unol ag is-adran (1) yn torri—
(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan yr awdurdod sy’n gwneud y datgeliad, neu
(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).
(3)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).
(4)Yn is-adran (1), ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)awdurdod diogelwch tân.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)