RHAN 5ATODOL A CHYFFREDINOL
Arfer swyddogaethau gan awdurdodau diogelwch adeiladau ac awdurdodau diogelwch tân
129Rhannu gwybodaeth
(1)
Caiff awdurdod perthnasol ddatgelu gwybodaeth a ddelir ganddo i awdurdod gorfodi at ddibenion swyddogaeth berthnasol y naill awdurdod neu’r llall.
(2)
Nid yw datgelu gwybodaeth yn unol ag is-adran (1) yn torri—
(a)
unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan yr awdurdod sy’n gwneud y datgeliad, neu
(b)
unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).
(3)
Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).
(4)
Yn is-adran (1), ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
(a)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)
awdurdod diogelwch tân.