Rhagolygol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o awdurdodau diogelwch adeiladau i drefnu o dan adran 101(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i un o’r awdurdodau arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill fel awdurdod diogelwch adeiladau.
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdodau.
(3)Caiff cyfarwyddyd—
(a)gwneud darpariaeth ynghylch telerau’r trefniadau y mae rhaid i’r awdurdodau eu gwneud;
(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer gwahanol swyddogaethau neu adeiladau).
(4)Rhaid rhoi cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.
(5)Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
(6)Pan fo trefniadau sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd mewn grym mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod diogelwch adeiladau, rhaid arfer y swyddogaeth yn unol â’r trefniadau (ac nid yw adran 101(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)