RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL
Personau atebol, prif bersonau atebol a rhannau cyffredin
12Cymhwyso adrannau 9 ac 11 mewn achosion o gydberchnogaeth etc.
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo, mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig—
(a)
dau neu ragor o bersonau yn dod o fewn adran 8(2)(a) oherwydd eu bod yn dal ar y cyd ystad gyfreithiol mewn meddiant yn yr un rhan o rannau cyffredin yr adeilad (neu yn yr holl rannau cyffredin);
(b)
dau neu ragor o bersonau yn dod o fewn adran 8(2)(b) oherwydd—
(i)
eu bod yn ddarostyngedig ar y cyd i ofyniad o dan les i atgyweirio neu gynnal a chadw yr un rhan o rannau cyffredin yr adeilad (neu’r holl rannau cyffredin), neu
(ii)
eu bod yn ddarostyngedig ar y cyd i ofyniad yn rhinwedd deddfiad i atgyweirio neu gynnal a chadw yr un rhan o rannau cyffredin yr adeilad (neu’r holl rannau cyffredin).
(2)
Mae personau sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) neu (1)(b)(i) neu (1)(b)(ii) i’w trin fel un person atebol at ddibenion—
(a)
adran 9(2) a (3) (ystyr prif berson atebol);
(b)
penderfyniad o dan adran 11(1)(c) (rhan o’r adeilad y mae unrhyw berson atebol yn gyfrifol amdani).