RHAN 4CYWEIRIO DIFFYGION PENODOL

116Costau cyweirio o dan lesoedd cymhwysol etc.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer yr hyn a ganlyn, ac mewn cysylltiad â’r hyn a ganlyn—

(a)

sicrhau nad oes unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy o dan les mangre mewn adeilad perthnasol mewn cysylltiad â mesur perthnasol sy’n ymwneud â diffyg perthnasol os oedd person o ddisgrifiad penodedig—

(i)

yn ddatblygwr yr adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 115), neu

(ii)

wedi ymgymryd â gwaith yn ymwneud â’r diffyg, neu wedi comisiynu gwaith o’r fath;

(b)

sicrhau nad oes unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy o dan les gymhwysol (naill ai’n gyffredinol neu o dan amgylchiadau penodedig) mewn cysylltiad ag—

(i)

mesur perthnasol sy’n ymwneud â diffyg perthnasol;

(ii)

gwaith neu wasanaethau penodedig eraill;

(c)

sicrhau nad yw tâl gwasanaeth yn daladwy o dan les gymhwysol mewn cysylltiad â mesur perthnasol sy’n ymwneud â diffyg perthnasol ond os (ac i’r graddau) y bodlonir amodau penodedig;

(d)

ei gwneud yn ofynnol i denant o dan les gymhwysol roi gwybodaeth neu ddogfennau perthnasol i’r landlord o dan y les neu unrhyw uwchlandlord;

(e)

ei gwneud yn ofynnol i landlord presennol neu flaenorol o dan les mangre mewn adeilad perthnasol roi gwybodaeth neu ddogfennau perthnasol i denant o dan les mangre yn yr adeilad, neu i berson arall.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer yr hyn a ganlyn ac mewn cysylltiad â’r hyn a ganlyn—

(a)

atal costau rhag—

(i)

cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw dâl gwasanaeth neu swm arall sy’n daladwy o dan les, neu

(ii)

cael eu talu o gronfa o ddisgrifiad penodedig;

(b)

sicrhau nad yw’r rheoliadau yn cael yr effaith o gynyddu swm sy’n daladwy gan denant o dan les;

(c)

galluogi swm nad yw’n adenilladwy o dan les o ganlyniad i’r rheoliadau gael ei adennill oddi wrth—

(i)

landlord presennol neu flaenorol o dan y les neu uwchlandlord presennol neu flaenorol;

(ii)

olynydd yn nheitl landlord o dan y les neu olynydd yn nheitl uwchlandlord.

(3)

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys—

(a)

darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo’r amod yn is-adran (1)(a) i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni;

(b)

darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau ar unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(c)

darpariaeth i gyfamod neu gytundeb (pa bryd bynnag y’u gwneir) fod yn annilys i’r graddau ei bod yn honni i eithrio neu gyfyngu ar unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

(4)

Yn yr adran hon—

ystyr “gwybodaeth neu ddogfennau perthnasol” (“relevant information or documents”) yw gwybodaeth neu ddogfennau sydd—

(a)

yn ymwneud ag adeilad perthnasol, a

(b)

yn berthnasol i unrhyw fater y gwneir darpariaeth mewn cysylltiad ag ef drwy reoliadau o dan yr adran hon;

ystyr “mesur perthnasol” (“relevant measure”), mewn perthynas â diffyg perthnasol, yw—

(a)

mesur a gymerir i unioni’r diffyg perthnasol, neu

(b)

cam perthnasol a gymerir mewn perthynas â’r diffyg perthnasol;

ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu yn y rheoliadau;

mae i “tâl gwasanaeth” yr ystyr a roddir i “service charge” gan adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) (ac mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys mewn perthynas â les mangre nad yw’n cynnwys annedd yn yr un modd ag y mae’n gymwys mewn perthynas â les annedd).