Rhagolygol
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)darparu y caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn cyfraniadau cyweirio ar gais person a chanddo fuddiant;
(b)gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gorchmynion cyfraniadau cyweirio.
(2)Gorchymyn cyfraniadau cyweirio yw gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol wneud taliadau i berson penodedig at y diben o dalu costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth unioni diffygion perthnasol (neu ddiffygion perthnasol penodedig) sy’n ymwneud ag adeilad perthnasol, neu mewn cysylltiad â hynny fel arall (“costau cyweirio”).
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu i orchmynion cyfraniadau cyweirio ei gwneud yn ofynnol gwneud taliadau—
(a)o symiau penodedig neu mewn perthynas â phethau penodedig, neu’r ddau;
(b)ar adegau penodedig neu ar alw yn dilyn digwyddiadau penodedig, neu’r ddau.
(4)Yn is-adrannau (2) a (3) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y gorchymyn cyfraniadau cyweirio.
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol” (“relevant body corporate or partnership”) yw corff corfforedig neu bartneriaeth sydd—
yn landlord o dan les o’r adeilad perthnasol neu unrhyw ran ohono,
yn berson a oedd yn landlord o’r fath ar ddechrau 20 Chwefror 2026,
yn ddatblygwr mewn perthynas â’r adeilad perthnasol, neu
yn berson sy’n gysylltiedig â pherson o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c);
ystyr “datblygwr” (“developer”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw person a ymgymerodd neu a gomisiynodd waith adeiladu’r adeilad (neu ran o’r adeilad) neu waith trosi’r adeilad (neu ran o’r adeilad) gyda’r bwriad o roi neu waredu buddiannau yn yr adeilad neu rannau ohono;
ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—
partneriaeth o fewn yr ystyr a roddir i “partnership” gan Ddeddf Partneriaeth 1890, neu
partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907,
neu ffyrm neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw—
Gweinidogion Cymru;
yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad;
yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad;
person a chanddo fuddiant cyfreithiol neu ecwitïol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono;
unrhyw berson arall a bennir, neu o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth ynghylch costau sydd i’w hystyried yn gostau cyweirio, neu gostau nad ydynt i’w hystyried yn gostau o’r fath;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae partneriaeth neu gorff corfforedig yn gysylltiedig â pherson arall oddi tanynt;
(c)darparu bod yr adran hon yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, mewn perthynas ag adeilad a fyddai, oni bai am adran 112(1)(b) neu (2), yn adeilad perthnasol.
(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)