RHAN 4CYWEIRIO DIFFYGION PENODOL

115Gorchmynion cyfraniadau cyweirio

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)

darparu y caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn cyfraniadau cyweirio ar gais person a chanddo fuddiant;

(b)

gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gorchmynion cyfraniadau cyweirio.

(2)

Gorchymyn cyfraniadau cyweirio yw gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol wneud taliadau i berson penodedig at y diben o dalu costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth unioni diffygion perthnasol (neu ddiffygion perthnasol penodedig) sy’n ymwneud ag adeilad perthnasol, neu mewn cysylltiad â hynny fel arall (“costau cyweirio”).

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu i orchmynion cyfraniadau cyweirio ei gwneud yn ofynnol gwneud taliadau—

(a)

o symiau penodedig neu mewn perthynas â phethau penodedig, neu’r ddau;

(b)

ar adegau penodedig neu ar alw yn dilyn digwyddiadau penodedig, neu’r ddau.

(4)

Yn is-adrannau (2) a (3) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y gorchymyn cyfraniadau cyweirio.

(5)

Yn yr adran hon—

ystyr “corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol” (“relevant body corporate or partnership”) yw corff corfforedig neu bartneriaeth sydd—

(a)

yn landlord o dan les o’r adeilad perthnasol neu unrhyw ran ohono,

(b)

yn berson a oedd yn landlord o’r fath ar ddechrau 20 Chwefror 2026,

(c)

yn ddatblygwr mewn perthynas â’r adeilad perthnasol, neu

(d)

yn berson sy’n gysylltiedig â pherson o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c);

ystyr “datblygwr” (“developer”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw person a ymgymerodd neu a gomisiynodd waith adeiladu’r adeilad (neu ran o’r adeilad) neu waith trosi’r adeilad (neu ran o’r adeilad) gyda’r bwriad o roi neu waredu buddiannau yn yr adeilad neu rannau ohono;

ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

(a)

partneriaeth o fewn yr ystyr a roddir i “partnership” gan Ddeddf Partneriaeth 1890, neu

(b)

partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907,

neu ffyrm neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”), mewn perthynas ag adeilad perthnasol, yw—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad;

(c)

yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad;

(d)

person a chanddo fuddiant cyfreithiol neu ecwitïol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

(e)

unrhyw berson arall a bennir, neu o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)

gwneud darpariaeth ynghylch costau sydd i’w hystyried yn gostau cyweirio, neu gostau nad ydynt i’w hystyried yn gostau o’r fath;

(b)

gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae partneriaeth neu gorff corfforedig yn gysylltiedig â pherson arall oddi tanynt;

(c)

darparu bod yr adran hon yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, mewn perthynas ag adeilad a fyddai, oni bai am adran 112(1)(b) neu (2), yn adeilad perthnasol.

(7)

Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.