RHAN 4CYWEIRIO DIFFYGION PENODOL

112Ystyr “adeilad perthnasol”

(1)

Yn y Rhan hon, ystyr “adeilad perthnasol” yw adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn cyfeiriad at adeilad o’r fath yn rhinwedd adran 7 (ardaloedd atodol);

(b)

unrhyw adeilad—

(i)

y mae hawl o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) (hawl tenantiaid i gael y cynnig cyntaf) neu Ran 3 o’r Ddeddf honno (caffael gorfodol gan denantiaid o fuddiant landlord) wedi ei arfer mewn perthynas ag ef;

(ii)

y mae’r hawl i ryddfreinio ar y cyd o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) wedi ei arfer mewn perthynas ag ef;

(iii)

sydd ar dir cyfunddaliad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15)).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu nad yw adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn adeilad perthnasol os yw lesddeiliad yn berchen ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliadau).