Rhagolygol

RHAN 3LL+CPWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Pŵer awdurdod diogelwch adeiladau i roi hysbysiadau cosb benodedigLL+C

110Pŵer awdurdod diogelwch adeiladau i roi hysbysiadau cosb benodedigLL+C

(1)Caiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 roi hysbysiad cosb benodedig i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad os yw’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi cyflawni trosedd o dan—

(a)adran 19(1) (methiant i gofrestru adeilad rheoleiddiedig);

(b)adran 24(8) (methiant i roi declarasiwn perthnasol i’r awdurdod diogelwch adeiladau).

(2)Caiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo roi hysbysiad cosb benodedig i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad os yw’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi cyflawni trosedd o dan—

(a)adran 42(5) (methiant i wneud cais am dystysgrif adeilad);

(b)adran 45(5) (methiant i arddangos tystysgrif adeilad a gwybodaeth gysylltiedig).

(3)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person ryddhau unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu i’r awdurdod diogelwch adeiladau swm a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Pan roddir hysbysiad cosb benodedig i berson, ni chaniateir dwyn achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddarparu i swm gostyngedig fod yn daladwy o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.

(6)Pan fo person yn gwneud taliad yn unol â thelerau hysbysiad cosb benodedig, ni chaniateir dwyn achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(7)Rhaid i hysbysiad cosb benodedig nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod diogelwch adeiladau;

(b)y drosedd honedig a rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

(c)bod yr hysbysiad yn cynnig i’r derbynnydd y cyfle i ryddhau atebolrwydd am drosedd heb erlyniad, ond y caiff y person ddewis yn hytrach na hynny i arfer ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig (a sut y caniateir arfer yr hawl hwnnw);

(d)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb (gan gynnwys swm unrhyw gosb ostyngedig a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb ostyngedig);

(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(f)sut y caniateir talu’r gosb neu’r gosb ostyngedig;

(g)sut y caniateir gwneud unrhyw sylwadau yn ymwneud â’r hysbysiad.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch tynnu hysbysiadau cosb benodedig yn ôl, gan gynnwys—

(a)yr amgylchiadau y gellir tynnu hysbysiad yn ôl ynddynt;

(b)ad-dalu unrhyw swm a dalwyd cyn tynnu hysbysiad yn ôl;

(c)yr amgylchiadau na chaniateir dwyn achos am drosedd er gwaethaf bod yr hysbysiad wedi ei dynnu yn ôl.

(9)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth i’r swm sy’n daladwy o dan hysbysiad fod yn fwy na phedair gwaith lefel 4 ar y raddfa safonol.

(10)Ni chaniateir defnyddio taliadau a geir gan awdurdod yn rhinwedd yr adran hon ond ar gyfer y dibenion a ganlyn—

(a)swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;

(b)swyddogaethau eraill yr awdurdod fel y cânt eu pennu mewn rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)