RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO
Pŵer awdurdod diogelwch adeiladau i roi hysbysiadau cosb benodedig
110Pŵer awdurdod diogelwch adeiladau i roi hysbysiadau cosb benodedig
(1)
Caiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 roi hysbysiad cosb benodedig i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad os yw’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi cyflawni trosedd o dan—
(a)
adran 19(1) (methiant i gofrestru adeilad rheoleiddiedig);
(b)
adran 24(8) (methiant i roi declarasiwn perthnasol i’r awdurdod diogelwch adeiladau).
(2)
Caiff yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo roi hysbysiad cosb benodedig i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad os yw’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi cyflawni trosedd o dan—
(a)
adran 42(5) (methiant i wneud cais am dystysgrif adeilad);
(b)
adran 45(5) (methiant i arddangos tystysgrif adeilad a gwybodaeth gysylltiedig).
(3)
Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person ryddhau unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu i’r awdurdod diogelwch adeiladau swm a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)
Pan roddir hysbysiad cosb benodedig i berson, ni chaniateir dwyn achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.
(5)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddarparu i swm gostyngedig fod yn daladwy o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.
(6)
Pan fo person yn gwneud taliad yn unol â thelerau hysbysiad cosb benodedig, ni chaniateir dwyn achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(7)
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig nodi—
(a)
enw a chyfeiriad yr awdurdod diogelwch adeiladau;
(b)
y drosedd honedig a rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(c)
bod yr hysbysiad yn cynnig i’r derbynnydd y cyfle i ryddhau atebolrwydd am drosedd heb erlyniad, ond y caiff y person ddewis yn hytrach na hynny i arfer ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig (a sut y caniateir arfer yr hawl hwnnw);
(d)
swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb (gan gynnwys swm unrhyw gosb ostyngedig a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb ostyngedig);
(e)
canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
(f)
sut y caniateir talu’r gosb neu’r gosb ostyngedig;
(g)
sut y caniateir gwneud unrhyw sylwadau yn ymwneud â’r hysbysiad.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch tynnu hysbysiadau cosb benodedig yn ôl, gan gynnwys—
(a)
yr amgylchiadau y gellir tynnu hysbysiad yn ôl ynddynt;
(b)
ad-dalu unrhyw swm a dalwyd cyn tynnu hysbysiad yn ôl;
(c)
yr amgylchiadau na chaniateir dwyn achos am drosedd er gwaethaf bod yr hysbysiad wedi ei dynnu yn ôl.
(9)
Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth i’r swm sy’n daladwy o dan hysbysiad fod yn fwy na phedair gwaith lefel 4 ar y raddfa safonol.
(10)
Ni chaniateir defnyddio taliadau a geir gan awdurdod yn rhinwedd yr adran hon ond ar gyfer y dibenion a ganlyn—
(a)
swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;
(b)
swyddogaethau eraill yr awdurdod fel y cânt eu pennu mewn rheoliadau.