Rhagolygol
(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre sy’n cael ei defnyddio fel uned breswyl pan fo—
(a)y swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a
(b)gwarant yn awdurdodi mynediad wedi ei ddyroddi gan ynad heddwch o dan is-adran (2).
(2)Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant o dan yr is-adran hon ond os yw’n fodlon, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw gan swyddog awdurdodedig—
(a)ei bod yn angenrheidiol i swyddog awdurdodedig gael mynediad at ddiben perthnasol, a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn yn gymwys—
(i)y byddai gofyn am fynediad at y diben perthnasol yn llesteirio’r diben hwnnw,
(ii)bod mynediad at y diben perthnasol wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, neu
(iii)na ellir dod o hyd i unrhyw berson a chanddo’r hawl i ganiatáu mynediad at y diben perthnasol.
(3)O ran gwarant a ddyroddwyd o dan is-adran (2)—
(a)mae’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre a bennir yn y warant;
(b)caiff, os yw’r ynad heddwch o’r farn ei bod yn angenrheidiol, awdurdodi swyddog awdurdodedig—
(i)i arfer swyddogaethau o dan adran 105 i’r graddau a bennir yn y warant;
(ii)i fynd i’r fangre drwy rym (os oes angen);
(c)caiff bennu pryd, neu pa mor aml, y caiff mynediad ddigwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)