Rhagolygol
(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl—
(a)pan fo’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a
(b)oni bai bod y swyddog yn ystyried y byddai’n llesteirio’r diben, pan fo—
(i)y mynediad yn digwydd ar adeg resymol o’r dydd, a
(ii)hysbysiad rhesymol yn cael ei roi i’r meddiannydd neu i berson sy’n ymddangos i’r swyddog ei fod yn gyfrifol am y fangre.
(2)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl drwy rym (os oes angen) pan fo—
(a)y swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a
(b)gwarant wedi ei ddyroddi gan ynad heddwch o dan is-adran (3).
(3)Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant o dan yr is-adran hon ond os yw’n fodlon, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw gan swyddog awdurdodedig—
(a)ei bod yn angenrheidiol i swyddog awdurdodedig gael mynediad at ddiben perthnasol, a
(b)bod y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn yn gymwys—
(i)bod mynediad wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, neu
(ii)ei bod yn briodol fel arall i’r swyddog gael ei awdurdodi i fynd i mewn drwy rym (os oes angen).
(4)O ran gwarant a ddyroddwyd o dan is-adran (3)—
(a)mae’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre a bennir yn y warant drwy rym (os oes angen);
(b)caiff bennu pryd, neu pa mor aml, y caiff mynediad ddigwydd.
(5)Yn yr adran hon ac adran 104, mae “uned breswyl” yn cynnwys mangre a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)