RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO
Swyddogaethau swyddogion awdurdodedig
103Pŵer i fynd i fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl
(1)
Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl—
(a)
pan fo’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a
(b)
oni bai bod y swyddog yn ystyried y byddai’n llesteirio’r diben, pan fo—
(i)
y mynediad yn digwydd ar adeg resymol o’r dydd, a
(ii)
hysbysiad rhesymol yn cael ei roi i’r meddiannydd neu i berson sy’n ymddangos i’r swyddog ei fod yn gyfrifol am y fangre.
(2)
Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre nad yw’n cael ei defnyddio fel uned breswyl drwy rym (os oes angen) pan fo—
(a)
y swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben perthnasol, a
(b)
gwarant wedi ei ddyroddi gan ynad heddwch o dan is-adran (3).
(3)
Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant o dan yr is-adran hon ond os yw’n fodlon, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw gan swyddog awdurdodedig—
(a)
ei bod yn angenrheidiol i swyddog awdurdodedig gael mynediad at ddiben perthnasol, a
(b)
bod y naill neu’r llall o’r hyn a ganlyn yn gymwys—
(i)
bod mynediad wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, neu
(ii)
ei bod yn briodol fel arall i’r swyddog gael ei awdurdodi i fynd i mewn drwy rym (os oes angen).
(4)
O ran gwarant a ddyroddwyd o dan is-adran (3)—
(a)
mae’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre a bennir yn y warant drwy rym (os oes angen);
(b)
caiff bennu pryd, neu pa mor aml, y caiff mynediad ddigwydd.
(5)
Yn yr adran hon ac adran 104, mae “uned breswyl” yn cynnwys mangre a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a).