RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Swyddogaethau swyddogion awdurdodedig

102Swyddogion awdurdodedig ac ystyr “diben perthnasol”

(1)

Caiff awdurdod gorfodi awdurdodi person i arfer swyddogaeth o dan ddarpariaeth o’r Rhan hon sydd—

(a)

yn rhoi swyddogaethau i swyddog awdurdodedig, a

(b)

yn cael ei bennu yn yr awdurdodiad.

(2)

Ond caiff awdurdod gorfodi ond awdurdodi person i arfer swyddogaethau y mae’r awdurdod yn ystyried bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol i’w harfer.

(3)

Rhaid i awdurdodiad o dan yr adran hon gael ei roi yn ysgrifenedig.

(4)

Caniateir amrywio neu ddirymu awdurdodiad o dan yr adran hon drwy offeryn ysgrifenedig.

(5)

Wrth arfer neu geisio arfer swyddogaeth swyddog awdurdodedig, rhaid i berson, os gofynnir iddo, gyflwyno tystiolaeth o’r awdurdodiad.

(6)

Yn y Rhan hon—

(a)

ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd o dan yr adran hon;

(b)

mae cyfeiriadau at “swyddog awdurdodedig” mewn perthynas â swyddogaeth o dan y Rhan hon yn gyfeiriadau at berson a awdurdodwyd o dan yr adran hon mewn cysylltiad â’r swyddogaeth honno;

(c)

ystyr “diben perthnasol”, mewn perthynas â swyddog awdurdodedig, yw—

(i)

ymchwilio i gydymffurfedd ag unrhyw ofyniad y mae gan yr awdurdod a awdurdododd y swyddog y swyddogaeth o orfodi, neu

(ii)

unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud ag unrhyw swyddogaeth yr awdurdod hwnnw o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.