RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Pwerau awdurdodau gorfodi i roi hysbysiadau

101Hysbysiadau: troseddau

(1)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)

yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth a roddir i’r person;

(b)

yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir i’r person;

(c)

yn torri gwaharddiad neu gyfyngiad a gynhwysir mewn hysbysiad gwahardd;

(d)

yn methu â chydymffurfio ag adran 98(6) (camau i’w cymryd gan dderbynnydd yr hysbysiad gwahardd).

(2)

Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad i’r person brofi bod gan y person esgus rhesymol dros y methiant neu’r toriad.

(3)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)

ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)

ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(4)

Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r methiant neu’r toriad yn parhau ar ôl yr euogfarn.

(5)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant neu’r toriad yn parhau.