RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL
Personau atebol, prif bersonau atebol a rhannau cyffredin
10Prif berson atebol: penderfyniad gan awdurdod diogelwch adeiladau
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys os—
(a)
oes gan adeilad rheoleiddiedig fwy nag un person atebol sy’n dod o fewn adran 9(3), a
(b)
yw personau atebol gwahanol yn dod o fewn adran 9(3) mewn cysylltiad â rhannau gwahanol o’r strwythur allanol.
(2)
Caiff y personau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) wneud cais ar y cyd i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad am benderfyniad ynghylch pa un o’r personau yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
sut y mae rhaid gwneud cais o dan is-adran (2);
(b)
ffurf a chynnwys cais;
(c)
y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda chais;
(d)
pryd y caniateir gwneud cais;
(e)
tynnu ceisiadau yn ôl;
(f)
penderfynu ar geisiadau (gan gynnwys amgylchiadau pan gaiff awdurdod benderfynu peidio â gwneud penderfyniad).
(4)
Nid yw is-adran (2) yn gymwys os, o ran yr adeilad rheoleiddiedig, yw cais i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 11(1)(b)—
(a)
wedi ei benderfynu’n derfynol, neu
(b)
wedi ei wneud ond heb ei benderfynu’n derfynol na’i dynnu’n ôl.