RHAN 1LL+CDIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

1Trosolwg o RanLL+C

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r Rhan hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â diogelwch adeiladau sy’n cynnwys dwy neu ragor o unedau preswyl, y cyfeirir atynt fel “adeiladau rheoleiddiedig” ac sydd wedi eu rhannu’n 3 chategori. Mae’n gwneud hynny yn bennaf drwy osod dyletswyddau ar y personau atebol, neu’r prif berson atebol, ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae rhai dyletswyddau yn gymwys i bob adeilad rheoleiddiedig, mae rhai yn gymwys i adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 yn unig, ac mae eraill yn gymwys i adeiladau categori 1 yn unig;

(b)mae rhai dyletswyddau yn gymwys ond pan fo adeilad rheoleiddiedig “wedi ei feddiannu” (sy’n golygu bod preswylwyr mwy nag un uned breswyl yn yr adeilad).

(4)Mae Pennod 2 yn nodi ystyron rhai termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf hon. Yn benodol, mae’n gwneud darpariaeth am—

(a)ystyr cyfeiriadau at adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a’r 3 chategori o adeiladau rheoleiddiedig;

(b)sut i adnabod person atebol, a’r prif berson atebol, ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(5)Mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer cofrestru adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 gan awdurdodau diogelwch adeiladau.

(6)Mae Pennod 4 yn darparu ar gyfer asesu a rheoli risgiau diogelwch mewn perthynas ag adeiladau rheoleiddiedig a feddiennir. Mae’n gwneud hynny drwy—

(a)gosod dyletswyddau ar brif bersonau atebol i asesu risgiau diogelwch tân, ac ar bersonau atebol i reoli’r risgiau hynny, sy’n gymwys i bob adeilad rheoleiddiedig;

(b)gosod dyletswyddau ar bersonau atebol i asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol, sy’n gymwys i adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 yn unig.

(7)Mae Pennod 5 yn darparu ar gyfer dyletswyddau sy’n gymwys i adeiladau categori 1 a feddiennir yn unig ac sy’n cael eu gosod yn bennaf ar y prif bersonau atebol ar gyfer yr adeiladau hynny. Maent yn cynnwys dyletswyddau sy’n ymwneud â llunio adroddiadau, cofnodi ac adrodd ar faterion diogelwch adeiladau, a strategaethau ar gyfer cynnwys preswylwyr mewn penderfyniadau diogelwch adeiladau.

(8)Mae Pennod 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth am strategaethau ar gyfer cynnwys preswylwyr adeiladau categori 2 a feddiennir mewn penderfyniadau diogelwch adeiladau.

(9)Mae Pennod 7 yn darparu ar gyfer dyletswyddau i bersonau atebol gadw a rhannu gwybodaeth sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig, ac i bersonau atebol ac awdurdodau diogelwch adeiladau ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â materion diogelwch adeiladau. Mae’n gosod dyletswyddau, neu’n eu galluogi i gael eu gosod, mewn perthynas â’r holl adeiladau rheoleiddiedig.

(10)Mae Pennod 8 yn gosod dyletswyddau sy’n ymwneud â diogelwch tân ar breswylwyr sy’n oedolion a pherchnogion unedau preswyl mewn adeiladau rheoleiddiedig a feddiennir. Mae hefyd yn gosod dyletswyddau‍ cyfatebol sy’n ymwneud â diogelwch strwythurol mewn adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2, a dyletswyddau i atgyweirio difrod i wrthiant tân unedau preswyl ym mhob adeilad rheoleiddiedig a feddiennir. Mae’n darparu ar gyfer gorfodi’r dyletswyddau gan bersonau atebol, ac ar gyfer mynediad i unedau preswyl er mwyn galluogi cydymffurfiaeth â’r Rhan hon.

(11)Mae Pennod 9 yn darparu i benderfyniadau penodol awdurdod diogelwch adeiladau fod yn ddarostyngedig i adolygiad gan yr awdurdod ac apêl i dribiwnlys eiddo preswyl.

(12)Mae Pennod 10 yn cynnwys darpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau atebol gydweithredu a chydlynu â phersonau eraill, darpariaeth ynghylch adennill costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth gydymffurfio â’r Rhan hon, a darpariaeth i delerau sy’n ymwneud â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Ddeddf hon gael eu gosod ymhlyg mewn lesoedd penodol.

(13)Ceir darpariaeth bellach ar gyfer gorfodi dyletswyddau o dan y Ddeddf hon yn Rhan 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 138(1)(a)