RHAN 1AMCAN AMGYLCHEDDOL AC EGWYDDORION AMGYLCHEDDOL
6Datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio dogfen (“datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd”) sy’n egluro—
(a)
sut y maent yn ystyried y dylid dehongli’r egwyddorion amgylcheddol;
(b)
sut y maent yn cynnig cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 3(1);
(c)
sut y maent yn cynnig penderfynu, at ddiben adran 3(4), a fyddai polisi yn cael dim effaith neu effaith ddibwys ar yr amgylchedd;
(d)
sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn adran 3(1)(b);
(e)
sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol a’r ddyletswydd yn adran 3(1)(b) yn ymwneud â’r amcan amgylcheddol;
(f)
sut y mae’r dyletswyddau yn adran 3(1), adran 5(1) ac erthygl 4A(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ymwneud â’i gilydd;
(g)
sut y mae’r ddyletswydd yn adran 3(1) yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill;
(h)
sut y maent yn cynnig dangos y cydymffurfiwyd â’r ddyletswydd yn adran 3(1).
(2)
Rhaid i’r datganiad gynnwys canllawiau i Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch—
(a)
sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a sut i wneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi effaith i’w ddiben cyffredinol yn erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw;
(b)
sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1)(b) o’r Gorchymyn;
(c)
sut y mae’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1) o’r Gorchymyn yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill.
(3)
Rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys canllawiau i awdurdodau cyhoeddus ynghylch—
(a)
sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 5(1);
(b)
sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn adran 5(1)(b);
(c)
sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol a’r ddyletswydd yn adran 5(1)(b) yn ymwneud â’r amcan amgylcheddol;
(d)
sut y mae’r ddyletswydd yn adran 5(1) yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill.
(4)
Caiff y datganiad hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.