RHAN 1AMCAN AMGYLCHEDDOL AC EGWYDDORION AMGYLCHEDDOL

5Asesiadau amgylcheddol: dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus

(1)

Rhaid i awdurdod cyhoeddus, at ddiben cyfrannu at yr amcan amgylcheddol—

(a)

rhoi sylw i’r egwyddorion amgylcheddol wrth gyflawni swyddogaethau a bennir yn is-adran (2), a

(b)

integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny.

(2)

Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaethau mewn cysylltiad ag asesu cynlluniau a rhaglenni sy’n ymwneud â Chymru yn unig neu ag unrhyw ran o Gymru yn unig o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1656 (Cy. 170)) neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol sy’n disodli’r Rheoliadau hynny.

(3)

Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd neu ddatganiad diwygiedig a gyhoeddir o dan adran‍ 7.

(4)

Yn yr adran hon ac yn adran 6, ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw person, ac eithrio Gweinidogion Cymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru—

(a)

sy’n awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu

(b)

a restrir ym mharagraff 9(2) neu (6) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno.