RHAN 4CYFFREDINOL
46Dod i rym
(1)
Daw’r Rhan hon, ar wahân i adran 45, i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adrannau 1 a 2;
(b)
adran 6 ac adran 7, ac eithrio is-adran (1)(c);
(c)
adrannau 8 a 10 ac Atodlen 1, ac eithrio paragraffau 10 ac 21;
(d)
adran 30 ac Atodlen 3;
(e)
adrannau 31 i 34;
(f)
Rhan 3;
(g)
paragraffau 1 i 4 o Atodlen 4 (ac adran 45 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).
(3)
Daw adrannau 3 i 5 i rym ar 31 Mawrth 2027.
(4)
Ac eithrio fel a ddarperir gan is-adrannau (1) i (3), ac yn ddarostyngedig i is-adran (5), daw darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
(5)
Os nad yw’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (6) wedi dod i rym erbyn diwedd y cyfnod o 24 o fisoedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, maent yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(6)
Y darpariaethau yw—
(a)
adran 7(1)(c);
(b)
paragraffau 10 ac 21 o Atodlen 1;
(c)
adrannau 11 i 29 ac Atodlen 2;
(d)
paragraff 5 o Atodlen 4 (ac adran 45 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraff hwnnw).
(7)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—
(a)
gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
(b)
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
(8)
Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (5) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir am y tro yn yr is-adran honno.
(9)
Ni chaiff y cyfnod a amnewidir yn unol ag is-adran (8) fod yn hwy na 48 o fisoedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.