RHAN 4CYFFREDINOL
44Dehongli cyffredinol
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “adroddiad gwella” (“improvement report”) yw adroddiad a gyhoeddir o dan adran 22;
mae i “amcan amgylcheddol” (“environmental objective”) yr ystyr a roddir gan adran 1;
ystyr “amgylchedd” (“environment”) yw—
(a)
aer, dŵr a thir (gan gynnwys cramen y ddaear),
(b)
planhigion, anifeiliaid gwyllt ac organeddau byw eraill a’u cynefinoedd, ac
(c)
y systemau naturiol, y cylchoedd naturiol a’r prosesau naturiol y mae’r pethau ym mharagraffau (a) a (b) yn rhyngweithio drwyddynt;
mae i “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yr ystyr a roddir—
(a)
mewn perthynas ag adrannau 5 a 6, gan adran 5(4);
(b)
mewn perthynas â Rhan 2, gan adran 32;
mae i “cyfraith amgylcheddol” (“environmental law”) yr ystyr a roddir gan adran 31;
ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun a gyhoeddir o dan adran 24;
ystyr “datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd” (“environmental principles and integrating environmental protection statement”) yw datganiad a lunnir ac a gyhoeddir o dan adran 7;
ystyr “Deddf yr Amgylchedd” (“the Environment Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3);
ystyr “diogelu’r amgylchedd” (“environmental protection”) yw—
(a)
diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau gweithgarwch dynol;
(b)
cynnal, adfer neu wella’r amgylchedd;
(c)
diogelu pobl, a’u hiechyd yn benodol, rhag effeithiau gweithgarwch dynol ar yr amgylchedd;
(d)
monitro, asesu neu ystyried unrhyw beth ym mharagraffau (a) i (c) neu gynghori neu adrodd arno;
mae i “effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol” (“effectiveness of environmental law”) yr ystyr a roddir gan adran 33;
mae i “egwyddorion amgylcheddol” (“environmental principles”) yr ystyr a roddir gan adran 2;
ystyr “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 18;
mae i “hysbysiad cydymffurfio brys” (“urgent compliance notice”) yr ystyr a roddir gan adran 19(4);
ystyr “hysbysiad gwybodaeth” (“information notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 15;
mae i “methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol” (“failing to comply with environmental law”) yr ystyr a roddir gan adran 34;
ystyr “SLlAC” (“the OEGW”) yw Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru sydd wedi ei sefydlu o dan adran 8(1).