(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “rhoi”, “cyflwyno”, “anfon” neu unrhyw ymadrodd arall).
(2)Caniateir rhoi’r ddogfen drwy unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—
(a)drwy ei rhoi â llaw i’r person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;
(b)drwy ei gadael ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;
(c)drwy ei hanfon drwy’r post mewn llythyr rhagdaledig—
(i)wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu
(ii)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio at y person yn y cyfeiriad hwnnw;
(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (3).
(3)Yr amodau yw—
(a)bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gael gafael arni,
(b)bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac
(c)bod modd defnyddio’r ddogfen i gyfeirio ati yn nes ymlaen.
(4)Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy ei gadael mewn cyfeiriad yn unol ag is-adran (2)(b), bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod y gadewir y ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.
(5)Pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno dogfen i berson yn unol ag is-adran (2)(d) a bod y ddogfen yn dod i law’r person y tu allan i oriau busnes arferol y person, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno ar y diwrnod gwaith nesaf.
(6)Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi o dan y Ddeddf hon i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned na chyd-bwyllgor corfforedig, nac i’w rhoi ganddynt o dan y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)