RHAN 4CYFFREDINOL

43Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “rhoi”, “cyflwyno”, “anfon” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)

Caniateir rhoi’r ddogfen drwy unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)

drwy ei rhoi â llaw i’r person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b)

drwy ei gadael ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;

(c)

drwy ei hanfon drwy’r post mewn llythyr rhagdaledig—

(i)

wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu

(ii)

os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio at y person yn y cyfeiriad hwnnw;

(d)

os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (3).

(3)

Yr amodau yw—

(a)

bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gael gafael arni,

(b)

bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c)

bod modd defnyddio’r ddogfen i gyfeirio ati yn nes ymlaen.

(4)

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy ei gadael mewn cyfeiriad yn unol ag is-adran (2)(b), bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod y gadewir y ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.

(5)

Pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno dogfen i berson yn unol ag is-adran (2)(d) a bod y ddogfen yn dod i law’r person y tu allan i oriau busnes arferol y person, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno ar y diwrnod gwaith nesaf.

(6)

Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi o dan y Ddeddf hon i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned na chyd-bwyllgor corfforedig, nac i’w rhoi ganddynt o dan y Ddeddf hon.