RHAN 4CYFFREDINOL
42Rheoliadau
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig.
(2)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—
(a)
pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(b)
pŵer i wneud—
(i)
darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(ii)
darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3)
Mae rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd—
(a)
adran 31(4);
(b)
adran 46(8);
(c)
paragraff 2(3) o Atodlen 1;
(d)
paragraff 3(1)(i) o Atodlen 1.
(4)
Mae rheoliadau a wneir o dan adran 41(1) hefyd yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd os ydynt yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(5)
Mae unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 41(1) yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.
(6)
Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
Deddf gan Senedd Cymru;
(b)
Mesur Cynulliad;
(c)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.