RHAN 4CYFFREDINOL
41Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad ac eithrio’r Ddeddf hon.
(3)
Yn is-adran (2) mae “addasu” yn cynnwys diwygio, dirymu a diddymu.