RHAN 3TARGEDAU BIOAMRYWIAETH, ETC.
40Hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth
(1)
Yn lle’r croesbennawd italig o flaen adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd, rhodder—
“Dyletswyddau ar Weinidogion Cymru”.
(2)
Ar ôl y croesbennawd italig hwnnw, mewnosoder—
“8ADyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’r bygythiadau i fioamrywiaeth.”