RHAN 3TARGEDAU BIOAMRYWIAETH, ETC.
39Adroddiad gwerthuso
(1)
“6AGwerthusiad o gamau i gynnal a gwella bioamrywiaeth
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad gwerthuso”).
(2)
Rhaid i’r adroddiad gwerthuso nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cynigion a nodir yn unol ag adran 6(6) a (6B) yn y cynllun a gyhoeddwyd ganddynt yn fwyaf diweddar a chamau a gymerwyd yn unol â’r cynigion hynny.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad gwerthuso cyntaf cyn diwedd 2031, ac, wedi hynny, cyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2031.
(4)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi adroddiad gwerthuso, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi ohono i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru.
(5)
Mae anfon copi o’r adroddiad o dan is-adran (4) i’w drin fel cais gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru am gyngor o dan adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (dsc xx).”
(2)
Yn adran 24 o Ddeddf yr Amgylchedd—
(a)
“(za)
adroddiad gwerthuso a baratowyd o dan adran 6A;”;
(b)
yn is-adran (3), ar ôl “is-adran (1)”, mewnosoder “mewn perthynas â’r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b),”.