Rhagolygol
(1)Yn adran 6(7) o Ddeddf yr Amgylchedd, yn lle “i gydymffurfio ag is-adran (1)” rhodder “ —
(a)i gydymffurfio ag is-adran (1), a
(b)pan fo is-adran (2A) yn gymwys, i gyfrannu at gyrraedd y targed y mae wedi ei ddynodi mewn perthynas ag ef”.
(2)Ar ôl adran 6(7) o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—
“(7A)Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (7), yn benodol, adrodd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyrraedd y targedau a osodir mewn rheoliadau o dan adran 6B ac a ydynt yn debygol o gael eu cyrraedd.
(7B)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi eu hadroddiad o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi ohono i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru.
(7C)Mae anfon copi o’r adroddiad o dan is-adran (7B) i’w drin fel cais gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru am gyngor o dan adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (dsc xx).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 38 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)