RHAN 3TARGEDAU BIOAMRYWIAETH, ETC.
36Dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus
(1)
“(2A)
Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus o fewn is-adran (11) sydd wedi ei ddynodi mewn rheoliadau o dan adran 6F gymryd camau i gyfrannu at gyrraedd y targed y mae wedi ei ddynodi mewn perthynas ag ef.”
(2)
Yn adran 6(5)(d) o Ddeddf yr Amgylchedd, ar y dechrau, mewnosoder “pan fo’r awdurdod cyhoeddus yn un o fewn is-adran (11),”.
(3)
Yn adran 6(9) o Ddeddf yr Amgylchedd, yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus”, ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder “, ond nid Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru”.
(4)
“(11)
Mae awdurdod cyhoeddus o fewn yr is-adran hon os yw—
(a)
yn awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu
(b)
wedi ei restru ym mharagraff 9(2) neu (6) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno.”