RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Dehongli

34Ystyr “methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol”

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at awdurdod cyhoeddus yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yn gyfeiriadau at yr awdurdod—

(a)

yn arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n groes i gyfraith amgylcheddol, neu

(b)

yn methu ag arfer ei swyddogaethau pan fo’r methiant yn groes i gyfraith amgylcheddol.