RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Dehongli
31Ystyr “cyfraith amgylcheddol”
(1)
Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith amgylcheddol” yw unrhyw ddarpariaeth ddatganoledig i’r graddau—
(a)
ei bod yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â diogelu’r amgylchedd, a
(b)
nad yw’n ymwneud â—
(i)
datgelu gwybodaeth neu fynediad ati;
(ii)
trethiant, cyllid neu gyllidebau.
(2)
Nid yw is-adran (1)(b)(i) yn eithrio o ystyr “cyfraith amgylcheddol” ddarpariaethau yn y Rhan hon sy’n ymwneud â datgelu gwybodaeth.
(3)
Yn is-adran (1), ystyr “darpariaeth ddatganoledig” yw—
(a)
darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, neu mewn offeryn a wneir odano neu odani, a
(b)
darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw ddeddfiad arall a fyddai, pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad un o Weinidogion y Goron a osodir o dan Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)).
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu bod, neu nad yw, darpariaeth ddatganoledig a bennir yn y rheoliadau o fewn y diffiniad o “cyfraith amgylcheddol” yn is-adran (1) (ac mae’r Rhan hon yn gymwys yn unol â hynny).
(5)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (4) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)
SLlAC, a
(b)
unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.