RHAN 1AMCAN AMGYLCHEDDOL AC EGWYDDORION AMGYLCHEDDOL
3Dyletswyddau Gweinidogion Cymru wrth lunio polisi
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben cyfrannu at yr amcan amgylcheddol—
(a)
rhoi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi o ran Cymru, a
(b)
integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath.
(2)
Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd neu ddatganiad diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 7.
(3)
Yn yr adran hon—
(a)
mae “polisi” yn cynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth, ond nid yw’n cynnwys penderfyniad gweinyddol mewn perthynas â pherson penodol neu achos penodol;
(b)
mae “llunio polisi” yn cynnwys datblygu, mabwysiadu neu ddiwygio polisïau;
(c)
mae “Cymru” yn cynnwys, i’r graddau y mae polisi yn ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfyn atfor y môr tiriogaethol.
(4)
Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys pan fyddai’r polisi o dan sylw yn cael dim effaith neu effaith ddibwys ar yr amgylchedd.