Rhagolygol

RHAN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Datgelu gwybodaeth a chyfrinacheddLL+C

29Cymhwyso Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004LL+C

Os yw gwybodaeth neu ohebiaeth a grybwyllir yn adran 27(1) ac a ddelir gan SLlAC, neu a grybwyllir yn adran 28(1) ac a ddelir gan awdurdod cyhoeddus, yn wybodaeth amgylcheddol at ddibenion Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391), fe’i delir gan SLlAC neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod cyhoeddus, at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hynny i’r wybodaeth honno, mewn cysylltiad ag achos cyfrinachol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)