RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Datgelu gwybodaeth a chyfrinachedd

28Gofynion cyfrinachedd: awdurdodau cyhoeddus

(1)

Ni chaiff awdurdod cyhoeddus ddatgelu gohebiaeth rhwng SLlAC a’r awdurdod cyhoeddus hwnnw neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall—

(a)

sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth penodol neu hysbysiad cydymffurfio penodol, neu â llunio adroddiad gwella penodol, neu

(b)

sy’n hysbysiad o’r fath neu’n ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad o‘r fath, neu sy’n cynnwys hysbysiad o’r fath neu ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad o’r fath.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)

datgeliad a grybwyllir yn is-adran (1)(a) a wneir gyda chydsyniad SLlAC a’r awdurdod cyhoeddus yr oedd SLlAC yn gohebu ag ef (os nad yr awdurdod cyhoeddus sy’n gwneud y datgeliad ydyw);

(b)

datgeliad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) a wneir gyda chydsyniad SLlAC;

(c)

datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig â chydweithredu ag ymchwiliad o dan adran 17;

(d)

datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig â hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad cydymffurfio;

(e)

datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig ag adolygiad yr Uchel Lys o dan adran 21, adolygiad statudol neu achos sifil;

(f)

datgeliad a wneir at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal neu ganfod trosedd;

(g)

datgeliad a wneir yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys;

(h)

datgeliad a wneir yn unol â deddfiad sy’n gwneud y datgeliad yn ofynnol neu’n ei ganiatáu.

(3)

Ni chaiff SLlAC gydsynio i ddatgelu hysbysiad neu ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad yn unol ag is-adran (2)(b) oni bai bod yr hysbysiad neu’r adroddiad drafft yn ymwneud yn unig â mater nad yw SLlAC yn bwriadu cymryd unrhyw gam gweithredu pellach o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef.

(4)

Os yw cais awdurdod cyhoeddus am gydsyniad yn unol ag is-adran (2)(a) neu (b) yn ymwneud yn unig â mater nad yw SLlAC yn bwriadu cymryd unrhyw gam gweithredu pellach o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, ni chaiff SLlAC atal ei chydsyniad.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “adolygiad statudol” yw hawliad am adolygiad statudol o dan—

(a)

adran 287 neu 288 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8),

(b)

adran 22 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10),

(c)

adran 113 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), neu

(d)

adran 183 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3).