RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Datgelu gwybodaeth a chyfrinachedd
27Gofynion cyfrinachedd: SLlAC
(1)
Ni chaiff SLlAC ddatgelu—
(a)
gwybodaeth a gafwyd yn rhinwedd darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (2),
(b)
gohebiaeth rhwng SLlAC ac awdurdod cyhoeddus sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth penodol neu hysbysiad cydymffurfio penodol, neu â llunio adroddiad gwella penodol, nac
(c)
gohebiaeth rhwng SLlAC ac awdurdod cyhoeddus sy’n hysbysiad gwybodaeth, yn hysbysiad cydymffurfio neu’n ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad gwella, neu sy’n cynnwys hysbysiad gwybodaeth, hysbysiad cydymffurfio neu ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad gwella.
(2)
Y darpariaethau yw—
(a)
adran 15(1) (hysbysiadau gwybodaeth);
(b)
adran 20(10) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan SLlAC at ddibenion adolygiad o hysbysiad cydymffurfio);
(c)
adran 25(1) (dyletswydd awdurdod cyhoeddus i gydweithredu â SLlAC).
(3)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—
(a)
datgeliad a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b) a wneir gyda chydsyniad yr awdurdod cyhoeddus a ddarparodd yr wybodaeth neu’r ohebiaeth;
(b)
datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau SLlAC;
(c)
datgeliad sy’n ymwneud yn unig â mater nad yw SLlAC yn bwriadu cymryd unrhyw gam gweithredu pellach o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef;
(d)
datgeliad a wneir at ddibenion achos sifil;
(e)
datgeliad a wneir at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal neu ganfod trosedd;
(f)
datgeliad a wneir yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys;
(g)
datgeliad a wneir yn unol â deddfiad sy’n gwneud y datgeliad yn ofynnol neu’n ei ganiatáu.