RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Datgelu gwybodaeth a chyfrinachedd

26Datgelu gwybodaeth i SLlAC

(1)

Nid yw datgelu gwybodaeth i SLlAC gan awdurdod cyhoeddus yn unol â darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (3) yn torri—

(a)

unrhyw rwymedigaeth cyfrinachedd sy’n ddyledus gan yr awdurdod, na

(b)

unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gosodir).

(2)

Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(3)

Y darpariaethau yw—

(a)

adran 15(1) (hysbysiadau gwybodaeth);

(b)

adran 20(10) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan SLlAC at ddibenion adolygiad o hysbysiad cydymffurfio);

(c)

adran 25(1) (dyletswydd awdurdod cyhoeddus i gydweithredu â SLlAC).

(4)

Nid yw unrhyw beth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i SLlAC—

(a)

y byddai gan yr awdurdod hawlogaeth i wrthod ei darparu mewn achos sifil ar sail braint broffesiynol gyfreithiol, neu

(b)

y byddai gan yr awdurdod hawlogaeth i wrthod ei darparu, neu y byddai unrhyw reol gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wrthod ei darparu, mewn achos sifil ar sail imiwnedd budd y cyhoed‍d.