Rhagolygol

RHAN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Dyletswyddau cydweithreduLL+C

25Dyletswyddau cydweithreduLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus gydweithredu â SLlAC, a rhoi iddi unrhyw gymorth rhesymol y mae’n gwneud cais amdano (gan gynnwys darparu gwybodaeth), mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau SLlAC.

(2)Rhaid i awdurdod cyhoeddus hefyd wneud pob ymdrech resymol i—

(a)datrys yn gyflym unrhyw fater y mae SLlAC yn ei godi ynghylch methiant yr awdurdod i gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, i weithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol, neu i wneud cyfraith amgylcheddol effeithiol, a

(b)dod i gytundeb â SLlAC ynghylch unrhyw gam neu gamau gweithredu unioni y dylai’r awdurdod ei gymryd neu eu cymryd at ddibenion diogelu’r amgylchedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)