RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Dyletswyddau cydweithredu

25Dyletswyddau cydweithredu

(1)

Rhaid i awdurdod cyhoeddus gydweithredu â SLlAC, a rhoi iddi unrhyw gymorth rhesymol y mae’n gwneud cais amdano (gan gynnwys darparu gwybodaeth), mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau SLlAC.

(2)

Rhaid i awdurdod cyhoeddus hefyd wneud pob ymdrech resymol i—

(a)

datrys yn gyflym unrhyw fater y mae SLlAC yn ei godi ynghylch methiant yr awdurdod i gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, i weithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol, neu i wneud cyfraith amgylcheddol effeithiol, a

(b)

dod i gytundeb â SLlAC ynghylch unrhyw gam neu gamau gweithredu unioni y dylai’r awdurdod ei gymryd neu eu cymryd at ddibenion diogelu’r amgylchedd.