RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Adroddiadau gwella a chynlluniau gwella
24Cynlluniau gwella
(1)
Pan fo SLlAC yn cyhoeddi adroddiad gwella, rhaid i Weinidogion Cymru ymateb drwy gyhoeddi cynllun gwella.
(2)
Rhaid i gynllun gwella nodi—
(a)
yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig ei wneud mewn ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad gwella, gan gynnwys yn benodol—
(i)
y camau gweithredu y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig eu cymryd i weithredu’r argymhellion (yn llawn neu’n rhannol),
(ii)
yr amserlenni arfaethedig ar gyfer gweithredu’r argymhellion,
(iii)
y trefniadau ar gyfer adolygu cynnydd wrth weithredu’r argymhellion, ac adrodd arno, a
(b)
os nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu gweithredu’r argymhellion (yn llawn neu’n rhannol), y rhesymau dros hynny.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynllun gwella—
(a)
cyn diwedd 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr anfonwyd adroddiad gwella atynt o dan adran 22(4)(a), neu
(b)
os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ymgynghori ag unrhyw berson ynghylch y cynllun, cyn diwedd 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(4)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynllun gwella, rhaid iddynt osod copi ohono gerbron Senedd Cymru.