Rhagolygol

RHAN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Adroddiadau gwella a chynlluniau gwellaLL+C

23Adroddiadau gwella: cynnwysLL+C

(1)Rhaid i adroddiad gwella—

(a)nodi manylion y methiant honedig i—

(i)cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,

(ii)gweithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol, neu

(iii)gwneud cyfraith amgylcheddol effeithiol;

(b)egluro rhesymau SLlAC dros ystyried bod methiant o’r fath wedi bod;

(c)nodi effaith neu effaith bosibl y methiant;

(d)argymell camau gweithredu i Weinidogion Cymru eu cymryd mewn ymateb i’r methiant;

(e)cynnig amserlenni ar gyfer cymryd y camau gweithredu hynny.

(2)Ni chaiff y camau gweithredu a argymhellir ar gyfer Gweinidogion Cymru o dan is-adran (1)(d) gynnwys—

(a)dirymu neu amrywio penderfyniad gweinyddol a wnaed gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â pherson neu achos penodol, na

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus arall ddirymu neu amrywio penderfyniad o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)