RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Adroddiadau gwella a chynlluniau gwella
23Adroddiadau gwella: cynnwys
(1)
Rhaid i adroddiad gwella—
(a)
nodi manylion y methiant honedig i—
(i)
cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,
(ii)
gweithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol, neu
(iii)
gwneud cyfraith amgylcheddol effeithiol;
(b)
egluro rhesymau SLlAC dros ystyried bod methiant o’r fath wedi bod;
(c)
nodi effaith neu effaith bosibl y methiant;
(d)
argymell camau gweithredu i Weinidogion Cymru eu cymryd mewn ymateb i’r methiant;
(e)
cynnig amserlenni ar gyfer cymryd y camau gweithredu hynny.
(2)
Ni chaiff y camau gweithredu a argymhellir ar gyfer Gweinidogion Cymru o dan is-adran (1)(d) gynnwys—
(a)
dirymu neu amrywio penderfyniad gweinyddol a wnaed gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â pherson neu achos penodol, na
(b)
ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus arall ddirymu neu amrywio penderfyniad o’r fath.