RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Adroddiadau gwella a chynlluniau gwella
22Adroddiadau gwella
(1)
Caiff SLlAC gyhoeddi adroddiad gwella os yw’n ystyried bod awdurdod cyhoeddus yn methu neu wedi methu ar unrhyw adeg (pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol) ag—
(a)
cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, neu
(b)
gweithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol.
(2)
Caiff SLlAC hefyd gyhoeddi adroddiad gwella os yw’n ystyried bod Gweinidogion Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall wedi methu â gwneud cyfraith amgylcheddol effeithiol.
(3)
Caiff un adroddiad gwella o dan is-adran (1) ymwneud â methiant gan ddau neu ragor o awdurdodau cyhoeddus ond dim ond os yw SLlAC wedi ei bodloni bod yr holl awdurdodau o dan sylw yn arfer neu wedi arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sydd wedi arwain at yr un methiant honedig neu fethiant honedig tebyg.
(4)
Pan fo SLlAC yn cyhoeddi adroddiad gwella, rhaid iddi—
(a)
anfon copi o’r adroddiad—
(i)
i’r awdurdod cyhoeddus y cyhoeddir yr adroddiad mewn perthynas â’i fethiant honedig, a
(ii)
os nad Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cyhoeddus y cyhoeddir yr adroddiad mewn perthynas â’i fethiant honedig, at Weinidogion Cymru, a
(b)
gosod copi o’r adroddiad gerbron Senedd Cymru.