(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo SLlAC yn ystyried bod awdurdod cyhoeddus wedi methu â chymryd cam gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio yn y cyfnod y mae’n ofynnol cymryd y cam gweithredu o’i fewn.
(2)Caiff SLlAC wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus—
(a)cymryd y cam gweithredu fel y’i pennir yn yr hysbysiad cydymffurfio, neu
(b)cymryd y cam gweithredu hwnnw fel y’i hamrywir gan y Llys fel y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
(3)Ni chaniateir gwneud cais mewn perthynas â cham gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio nad yw’n hysbysiad cydymffurfio brys cyn y diweddaraf o—
(a)diwedd y cyfnod y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus gymryd y cam gweithredu o’i fewn, a
(b)unrhyw derfyn amser sy’n gymwys i gychwyn adolygiad barnwrol er mwyn cwestiynu’r ymddygiad honedig y cyflwynwyd yr hysbysiad cydymffurfio mewn cysylltiad ag ef.
(4)Ni chaniateir gwneud cais mewn perthynas â cham gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio brys cyn diwedd y cyfnod y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus gymryd y cam gweithredu o’i fewn.
(5)Rhaid i orchymyn a roddir ar gais o dan is-adran (2) bennu’r cyfnod y mae’n ofynnol cymryd y cam gweithredu o’i fewn.
(6)Os yw’r Llys, wrth benderfynu cais o dan is-adran (2), yn ystyried bod hysbysiad cydymffurfio neu ran o hysbysiad cydymffurfio yn afresymol neu na ddylai, am unrhyw reswm arall, yr hysbysiad fod wedi ei gyflwyno neu’r rhan fod wedi ei chynnwys, rhaid i’r Llys drwy orchymyn ei gwneud yn ofynnol i SLlAC dynnu’r hysbysiad neu (yn ôl y digwydd) y rhan o’r hysbysiad yn ôl.